
Cysylltiadau Nwy
Darparwn wasanaethau cysylltu nwy i Gymru gyfan a de-orllewin Lloegr i gyd. Bob blwyddyn, cysylltwn 11,000 o gartrefi a busnesau yn rhagor a gwnawn tua 3,000 o newidiadau i’n rhwydwaith. Ac rydym yn falch o wneud gwaith da ohono, hefyd, gan gyflawni sgoriau boddhad cwsmeriaid sydd ymysg y gorau yn y diwydiant tra ein bod wrthi. Os ydych chi’n hapus, rydym ninnau’n hapus.
Fel cludwr nwy, cynigiwn wasanaeth gosod pibelli a gwasanaethau nwy newydd, sy’n stopio wrth Falf Rheolaeth Frys sy’n nodi diwedd ein rhwydwaith. Ni allwn gyflenwi mesuryddion nwy ac felly bydd arnoch angen cofrestru â chyflenwr nwy os oes arnoch eisiau gosod mesurydd.
Ymfalchïwn mewn cynnig gwasanaeth sy’n diwallu’ch anghenion unigol. Mae yna raddfeydd amser a chanddynt safon warantedig o wasanaeth y mae’n rhaid inni’u cyrraedd (mae’n rhaid inni hyd yn oed wneud taliadau os methwn â chyrraedd y targedau) ond rydym yn wastad yn gwneud ein gorau i gyflawni’n llawer gwell na’r safonau hyn.
Mae yna dâl am y rhan fwyaf o’r gwaith a wnawn, ond mae yna gymorth ar gael ar gyfer rhai cysylltiadau â chartrefi ac ar gyfer y cwsmeriaid hynny sydd fwyaf anghenus. Fel arfer, gofynnwn am dâl cyn inni ddechrau gweithio, oni bai’ch bod wedi gweithio gyda ni o’r blaen a bod ninnau wedi cwblhau ymchwiliad i statws credyd fel y gallwch dalu drwy anfoneb.
Dyfynbrisiau ar gyfer cyflenwadau newydd a newidiadau i’r gwasanaeth
Faint? Dyfynbrisiau ar gyfer cyflenwadau nwy newydd a newidiadau i wasanaethau presennol. Cynigiwn ystod o wasanaethau i gysylltu eiddo presennol ac eiddo newydd â’r rhwydwaith nwy a gwnawn newidiadau i wasanaethau presennol i eiddo. Gofynnwn am rywfaint o wybodaeth amdanoch, y safle a’r llwyth nwy pan gysylltwch â ni, ac efallai y down draw i ymweld â chi i ganfod mwy o wybodaeth ac i ystyried risgiau penodol. Os ydych ond yn gofyn am syniad o’r costau, yna rydym yn fodlon eich helpu â hynny hefyd. Os oes arnoch angen syniad pendant o’r gost, rhown ddyfynbris penodol ichi am y gwaith, sy’n ddilys am 90 diwrnod.
Felly, os ydych chi eisiau cysylltu cartref neu fusnes â'r rhwydwaith nwy, gwneud newidiadau i'ch cyflenwad nwy neu ei ddatgysylltu, yn meddwl bod angen i chi ofyn i ni ddargyfeirio prif gyflenwad nwy neu eisiau chwistrellu nwy gwyrdd i'n rhwydwaith, fe welwch popeth sydd angen i chi ei wybod ar y tudalennau hyn.

Connection enquiry
Get in touch if you require more information on gas connections
Got a question?
All our commonly asked questions can be found here.
