
Atgyweiriadau Hanfodol a Newid Pibelli
Rheolwn a gweithredwn rwydwaith enfawr o bibelli. Mae ein 35,000 cilometr o bibelli nwy’n cadw’r nwy i lifo i gartrefi a busnesau drwy Gymru a de-orllewin Lloegr i gyd.
Er mwyn darparu cyflenwad diogel a dibynadwy o nwy, mae’n hanfodol bod ein pibelli’n cael eu monitro a’u cynnal a’u cadw’n ofalus. Mae ein peirianwyr profiadol yn gweithio ddydd a nos bob diwrnod i wneud yn union hynny.
Gan igam-ogamu i mewn ac allan o ddinasoedd, trefydd a phentrefydd drwy’n rhwydwaith i gyd, gallai hyd y pibelli nwy y gofalwn amdanynt bob diwrnod, petaent yn cael eu hymestyn mewn un llinell barhaus, ymestyn o’r Deyrnas Unedig i Seland Newydd ac yn eu holau eto!
Diogelu’n Pibelli ar gyfer y Dyfodol
I sicrhau bod ein rhwydwaith nwy’n gallu gwasanaethu’n cwsmeriaid ymhell i’r dyfodol, rydym yn disodli hen bibelli metel a gosod pibelli plastig newydd, mwy parhaol yn eu lle. Cytunwyd ar ein rhaglen newid pibelli 30 mlynedd yn 2000 ag Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch y DU. Bob blwyddyn, buddsoddwn £70 miliwn i newid tua 450 cilometr o bibelli metel.
Gyda hyd oes o thros 80 mlynedd, bydd ein pibelli plastig newydd yn ein helpu i gynnal cyflenwad diogel a dibynadwy o nwy, ac i gefnogi twf a datblygiad y cymunedau a wasanaethwn am genedlaethau i ddod.
Gweithio â chymunedau
Sylweddolwn y gall ein gwaith hanfodol gael effaith ar y cymunedau a wasanaethwn. Felly, p’un ai ydym yn cynnal gwaith atgyweirio bychan neu waith newid pibelli hanfodol ar raddfa fwy, gwyddom mor bwysig ydyw i hysbysu’n cwsmeriaid yn rheolaidd.
Buddsoddwn filiynau o bunnau bob wythnos yn ein rhwydwaith nwy i sicrhau ein bod yn cadw’r nwy i lifo i filiynau o gartrefi a busnesau. Ond nid dim ond y gwaith a’r buddsoddiad a wnawn sy’n cyfri’: mae sut rydym yn gweithio ochr yn ochr â’n cwsmeriaid a’n cymunedau yn bwysig hefyd.
Rydym wedi’n hymrwymo i fagu cysylltiadau ardderchog â’r cymunedau a wasanaethwn. Rydym bob amser yn ceisio bod yn agored a didwyll am ein gwaith a’i effaith bosib’. Mae siarad â phawb y gellid effeithio arnynt yn flaenoriaeth gennym fel ein bod yn gallu lleihau hyd yr eithaf ar darfu, gallu gwrando a gweithredu ar adborth a gwella’r gwasanaethau a gynigiwn i’n holl gwsmeriaid
Os oes gennych ragor o gwestiynau o gwbl, a fyddech cystal â siarad ag aelod o’r tîm ar safle neu â’n tîm gwasanaethau cwsmeriaid ar 02921 678 455 neu rif Rhadffon 0800 912 2999.
Gallwch hefyd anfon e-bost at enquiries@wwutilities.co.uk

If we're going to upgrade your pipes we'll keep you updated. Here are the five steps we'll take to make sure your upgrade goes as smoothly as possible.