
Mae rheolydd y diwydiant nwy, Ofgem, yn pennu faint o arian y caniateir inni’i dderbyn oddi wrth gwsmeriaid fel tâl am gyflenwi ystod o’r hyn a alwant yn ‘allbynnau diffiniedig’ sy’n cynrychioli gwerth da am arian.
Mae’r allbynnau hyn yn bodoli i sicrhau bod rhwydweithiau cyflenwi nwy fel ein rhwydwaith ni yn:
- cynnal rhwydwaith diogel a dibynadwy
- gwneud cyfraniad positif at gynaliadwyedd ac yn diogelu’r amgylchedd
- darparu cysylltiadau i gyflenwi cwsmeriaid newydd a chymorth y gwaith o gysylltu pwyntiau mynediad nwy newydd â’r rhwydwaith
- bodloni’n rhwymedigaethau cymdeithasol, a
- darparu safon o wasanaeth y cytunwyd arni i gwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill.
Mae ar gartrefi, busnesau a diwydiant angen ffynonellau ynni adnewyddadwy sy’n cynnig sicrwydd yn ogystal â gwerth am arian. Yma yn Wales & West Utilities, gwelwn hyn yn gyfle i adeiladu ar ein hanes trawiadol o lwyddiant, i wella rhagor ar ein perfformiad, ac i ddangos sut y gall nwy barhau i fod â rôl allweddol mewn portffolio ynni cytbwys am flynyddoedd lawer i ddod – er budd ein holl randdeiliaid.
Ein cyfrifoldeb ni fel rhwydweithiau ynni yw arloesi’n gyson a dangos ein bod yn darparu gwerth da am arian cwsmeriaid, gan wella’n barhaus dryloywder ynghylch gwir gost gwahanol
