Skip to content
Customer Services

Cyfrifoldeb Gwasanaethau Cwsmeriaid

Mae ein hasiantiaid ymroddedig ym maes gwasanaethau cwsmeriaid yn cadw’n cwsmeriaid yn ddedwydd drwy ddarparu gwasanaeth proffesiynol, sydd o ansawdd uchel. A thrwy fod yn wirioneddol glên

Pan fyddwch yn ffonio’n tîm gwasanaethau cwsmeriaid, byddwch yn siarad ag wyneb cyfeillgar yn ein pencadlys yng Nghasnewydd.  Yma, mae ein tîm bychan ond gweithgar iawn yn derbyn dros 110,000 o alwadau a thros 30,000 o e-byst y flwyddyn.  Ymatebwn hefyd i’ch negeseuon testun a’ch cysylltiadau drwy gyfryngau cymdeithasol.  

Mae’r rhesymau mwyaf cyffredin pam mae pobl yn cysylltu â ni yn cynnwys:

  • I wneud cais am gyflenwad nwy newydd
  • I ofyn am symud mesurydd nwy neu bibell nwy
  • I ofyn a yw pibell yn ‘fyw’ neu’n ‘farw’
  • I holi am ein gwaith cynnal a chadw yn y stryd / pam ein bod yn cloddio’r ffordd eto
  • I gynnal archwiliad diogelwch ar bibell nwy / gosod mesurydd

Bydd ein hasiantiaid yn gwneud cymaint ag y gallant i’ch helpu ond ble na allant, byddant yn eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun a all eich helpu.

A wyddech fod tri o’n hasiantaid naill ai wedi’u rhoi ar y rhestr fer ar gyfer teitl neu wedi ennill teitl “Cynrychiolydd Gwasanaeth Cwsmeriaid y Flwyddyn” yng Ngwobrau clodwiw Canolfannau Cyswllt Cymru am y tair blynedd diwethaf yn olynol?  Rydym yn falch o hynny.

What's happening in your area?