
Beth i’w wneud os aroglwch nwy
Camau i’w cymryd pan aroglwch nwy.
Os aroglwch nwy neu os ydych yn gofidio am ddiogelwch nwy, gallwch ffonio 0800 111 999 unrhyw adeg, ddydd neu nos, bob diwrnod o’r flwyddyn. Mae’r alwad ffôn yn rhad ac am ddim. Dim ond codwch y ffôn, deialwch y rhif ac fe’ch cysylltir â gweithredwr wedi’i hyfforddi fydd yn cymryd yr holl fanylion.
Cofnodir pob galwad ffôn i’r Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol, ac efallai y cânt eu monitro.
Os aroglwch nwy, ffoniwch 0800 111 999 yn rhad ac am ddim.
- Diffoddwch y nwy wrth y mesurydd, oni bai bod y mesurydd wedi’i leoli mewn seler neu islawr – ac os hynny, peidiwch â mynd i mewn.
- Os oes yna arogl nwy yn y seler neu’r islawr, dylech ymgilio o’r adeilad.
- Diffoddwch bob fflam noeth - peidiwch ag ysmygu na thanio matsis.
- Diffoddwch bob offer nwy a pheidiwch â’u defnyddio tan fod y peiriannydd wedi’u harchwilio.
- Peidiwch â gweithredu unrhyw offer trydanol na thanio neu ddiffodd unrhyw switshis.
- Agorwch ddrysau a ffenestri i awyru’r eiddo.
- Cadwch bobl draw o’r man.
- Bydd hi’n ofynnol cael mynediad di-oed.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Unwaith y byddwn wedi casglu’r holl wybodaeth, gwnawn ei hanfon yn electronig at beiriannydd ar gyfer gweithredu. Ein nod yw mynychu pob achos o nwy’n dianc heb reolaeth o fewn awr, a phob achos o nwy’n dianc dan reolaeth o fewn dwy awr. Achos o nwy’n dianc dan reolaeth yw lle mae’r person sy’n rhoi gwybod amdano wedi cadarnhau bod y falf rheoli argyfwng nwy sy’n gwasanaethu’r adeilad wedi’i diffodd a bod yr arogl nwy wedi diflannu. Mae achos o nwy’n dianc heb reolaeth yn cwmpasu pob achos arall.
Beth os yw’r gollyngiad nwy dan do?
Bydd ein peirianwyr bob amser yn ‘gwneud yn ddiogel’ pan gânt eu galw i ddigwyddiad lle amheuir fod nwy wedi dianc. Fodd bynnag, nid yw’r gwasanaeth brys a ddarparwn o dan delerau ein Trwydded yn cwmpasu atgyweiriadau i bibwaith nwy nad yw’n rhan o’n pibwaith ni ac na ellir ei gwblhau o fewn 30 munud.
Felly, beth ydwyf yn ei wneud nesaf?
Unwaith y byddwn wedi gwneud yr eiddo’n ddiogel, bydd ein peiriannydd yn egluro bod yn rhaid i unrhyw waith ar offer (e.e., cwcerau, boeleri neu danau) gael ei wneud gan beiriannydd sydd ar y Gofrestr Diogelwch Nwy. Gallwch ganfod manylion peirianwyr sydd ar y Gofrestr Diogelwch Nwy yn www.gassaferegister.co.uk

Frequently Asked Questions
Please feel free to contact us, but we may be able to answer your questions here