
Pa ardal rydym yn ei chwmpasu?
Er bod gennym drwydded i weithredu drwy’r Deyrnas Unedig i gyd, mae ein rhwydwaith ar hyn o bryd yn cwmpasu Cymru a de-orllewin Lloegr. Yn yr adran isod, gallwch gyrchu rhai mapiau o’n rhwydwaith o bibelli drwy offeryn gwirio cod post.
Os ydych wedi’ch lleoli y tu allan i’n hardal, ewch i wefan Ofgem, os gwelwch yn dda, i ganfod pwy yw perchennog eich rhwydwaith nwy lleol.
I ganfod yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal, yn cynnwys gwybodaeth am waith ffyrdd lleol, ewch i dudalen Yn Eich Ardal am wybodaeth amser real.
Cofiwch ffonio cyn ichi gloddio – Diogelu Offer Wales & West Utilities
Cyn ichi ddechrau gweithio ar briffordd gyhoeddus neu ar dir preifat, cysylltwch â’n tîm Diogelu Offer, os gwelwch yn dda, i wirio lleoliad ein hoffer yn yr ardal. Bydd arnom angen gweld graddluniad sy’n dangos lleoliad a maint eich gwaith. Yn nodweddiadol, ymatebwn i’ch ymholiad o fewn deg diwrnod gwaith.
I unrhyw un sydd angen gwirio’n cynlluniau’n rheolaidd, darparwn ein mapiau i dros 650 o sefydliadau cofrestredig. Gweler isod am fanylion sut i gyrchu’r mapiau hyn.
Llinell Gymorth Diogelu Offer (o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8yb tan 4.30yp)
Ffôn: 0292 027 8912
Ffacs: 0845 072 0852
Cyn gweithio wrth ymyl ein pibelli nwy, bydd angen ein hysbysu o leiaf saith diwrnod cyn bod unrhyw waith arfaethedig yn dechrau, yn cynnwys ffermydd solar a gweithfeydd tyrbinau gwynt.
Cyn ichi ddechrau unrhyw waith yn unrhyw un o’n ffyrddfreintiau neu ein hawddfreintiau (hawliau tramwy arbennig), bydd arnoch angen caniatâd ysgrifenedig ffurfiol gan ein hadran gyfreithiol.
Ni cheir gwneud unrhyw waith wrth ymyl, na symud cyfarpar neu offer trwm dros, unrhyw biblinell neu offer nwy tan y bydd yr holl amodau a enwir gennym wedi’u bodloni. Bydd yn rhaid gwneud pob gwaith cloddio yn unol â chyhoeddiad Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch HS(G)47.
Mapiau Wales & West Utilities
Cynigiwn hefyd wasanaeth mapio ar-lein, tebyg i’r map a ddefnyddiwn i gynhyrchu cynlluniau. Os bydd arnoch angen gweld ein cynlluniau, gallwch wneud cais i’w gweld drwy’r wefan hon. Bydd hyn yn eich galluogi i chwilio drwy’n rhwydwaith ac i gynhyrchu cynlluniau wrth raddfeydd.
Diogelu Offer
Rydym wedi cynhyrchu fideo diogelwch, ‘’Protecting Plant’, sydd hefyd ar gael ar y wefan hon. Mae hwn yn cynnig gwybodaeth fanylach am ein proses Diogelu Offer ac mae’n amlinellu gwybodaeth am ddiogelwch yn ymwneud â chloddio a gweithio wrth ymyl ein hoffer.
Gwasanaethau yr Adeiladir Drostynt
Er nad yw’n cynlluniau at ei gilydd yn dangos pibelli gwasanaethu i eiddo unigol, ni chewch adeiladu dim byd dros nac o amgylch ein pibelli sy’n peryglu tanseilio diogelwch y bibell ac sydd yn ein rhwystro rhag cynnal a chadw’r bibell honno. Ble y down ar draws y sefyllfaoedd hyn, cynhaliwn asesiad risg. Mewn achosion o risg uchel, megis pibelli’n gweithredu ar bwysedd canolig neu ganolraddol, neu adeiladau amlbreswyliaeth, gallwn gymryd camau di-oed i ynysu’r cyflenwad er mwyn dileu’r risg. Bydd y gwaith sydd ei angen i ailgysylltu’r gwasanaeth yn llwyr daladwy gan berchennog yr eiddo.