Skip to content
Complaints & Compliments

Canmoliaethau a chwynion

Meddwl y gallem wneud yn well?  Eisiau dweud ‘da iawn’?  Rydym yn gwir werthfawrogi’ch adborth.  Felly, os hoffech ganmol ein staff neu wneud cŵyn, mae’r wybodaeth y mae arnoch ei hangen isod.

Gwneud cŵyn

Ein nod yw darparu gwasanaeth ardderchog i’n holl gwsmeriaid, bob tro.  Fodd bynnag, mewn achosion prin, mae yna adegau pan nad ydym yn cyrraedd ein safonau uchel arferol.  Mae’n wir edifar gennym os ydym wedi’ch siomi chi. Rydym wedi ymroddi i ddatrys cwynion yn gyflym, yn deg ac yn gyfrinachol.  Os na allwn ddatrys eich cŵyn yn syth, gwnawn eich diweddaru’n rheolaidd hyd nes y byddwn wedi’i datrys.   

Gallwch lawrlwytho copi o’n gweithdrefn trin a thrafod cwynion yma. Ar gyfer cwynion yn ymwneud â’ch bil nwy, cysylltwch â’ch cyflenwr nwy, os gwelwch yn dda. Ar gyfer cwynion ynglŷn â gosod, tynnu, cyfnewid neu gynnal a chadw mesurydd y Grid Cenedlaethol, ffoniwch 0845 606 6766, os gwelwch yn dda. Gallwch gysylltu â’n tîm cwynion mewn llawer o ffyrdd: Ffôn: Rhadffon 0800 294 6645 Minicom: 029 2027 8707 E-bost: complaints@wwutilities.co.uk

Gallwch hefyd ysgrifennu atom yn:

Tîm Cwynion Wales & West Utilities Cyf Tŷ Wales & West
Spooner Close, Celtic Springs
Coedcernyw
Casnewydd
NP10 8FZ

Wrth ddarparu manylion eich cŵyn inni, bydd o gymorth inni ymchwilio i’ch pryderon yn gyflymach pe gallech ddarparu cyfeiriad y safle inni ac unrhyw rifau cyfeirnod.

Mae ein tîm cwynion ar gael rhwng 8yb – 5yp, o ddydd Llun i ddydd Gwener. I siarad ag aelod o’n tîm gwasanaethau cwsmeriaid y tu allan i’r oriau hyn, ffoniwch y rhif ffôn ymholiadau cyffredinol, Rhadffon 0800 912 29 99, os gwelwch yn dda.

Canmoliaethau – dywedwch ‘diolch’ wrth ein staff

Hapus?  Yna, rydym ninnau’n hapus hefyd.  Ymfalchïwn mewn cyflenwi gwasanaeth ardderchog bob diwrnod, ond mae hi bob amser yn wych cael gair bach o ganmoliaeth gan bobl hyfryd fel y chi. Os hoffech drosglwyddo’ch canmoliaeth neu’ch diolchiadau i un o’n timau, a fyddech cystal â gadael inni wybod eich cyfeiriad, y dyddiad ac unrhyw wybodaeth arall a all fod gennych, a gwnawn yn sicr o rannu’r cariad.   I drosglwyddo’ch adborth inni, gallwch gysylltu â ni yn: Ffôn: Rhadffon 0800 912 29 99 E-bost: enquiries@wwutilities.co.uk Gallwch hefyd ysgrifennu atom yn:

Boddhad Cwsmeriaid 
Wales & West Utilities
Cyf Tŷ Wales & West Spooner Close
Coedcernyw 
Casnewydd
NP10 8FZ

Gwiriwch beth sy'n digwydd

Got a question

Please feel free to contact us however we may be able to answer your question