|
|
|
|
|
|
Busnes dosbarthu nwy rheoledig gyda thua 34,000 km o bibellau dosbarthu nwy wedi'u lleoli yng Nghymru a De-orllewin Lloegr yw Wales and West Utilities. Casnewydd yw cartref prif swyddfa'r cwmni sy'n gyfrifol am 1 rhan o chwech o'r DU ac sy'n gwasanaethu dalgylch â phoblogaeth o 7.4 miliwn.
Ein prif swyddogaeth - a gyflawnir ar ran 'cyflenwyr nwy' - yw dosbarthu nwy i fesuryddion nwy cartrefi a busnesau - o ffin ogleddol Cymru i Gernyw.
Nid yw WWU yn gwerthu nwy, yn hytrach, swyddogaeth y cwmni yw sicrhau bod nwy yn cael ei ddosbarthu mewn ffordd ddiogel ac effeithlon. Mae'r cwmni hefyd yn gyfrifol am ymdrin â gollyngiadau nwy, gosod pibellau nwy newydd a symud pibellau a mesuryddion a gosod rhai newydd yn eu lle.
Graham Edwards
Prif Weithredwr - Wales & West Utilities